Job Advert
Welsh Language Provision Support Administrator
College of Biomedical and Life Sciences
The College of Biomedical and Life Sciences is seeking to appoint an enthusiastic, self-motivated individual to support Welsh-medium provision within the College. The role will support the delivery and enhancement of Welsh medium provision and opportunities across Schools and programmes within the College.
The post holder will work with the Welsh Language Education Manager and key stakeholders within the College and the University to support the enhancement and implementation of Welsh medium opportunities for a range of students from different linguistic backgrounds, developing provision for fluent, non-fluent and new speakers, linked to the University’s wider strategy and Coleg Cymraeg Cenedlaethol Welsh Medium targets for conversion of students to Welsh medium provision.
The role will support Welsh language and bilingual provision, opportunities and activities and will provide comprehensive professional administrative support and guidance for students, staff and key stakeholders. The successful candidate will take responsibility for specific areas of work, leading and guiding others in delivering these, and ensuring that students, academic colleagues and partners receive a high-quality experience.
This role is eligible to be offered on a blended working basis, which means that as well as working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
As the largest university in Wales – and a major employer, with over 7,000 members of staff – we are an ambitious and innovative university located in a beautiful and thriving capital city. We offer you the chance to work bilingually in a vibrant organisation, with excellent benefits and opportunities for progression.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl bank holidays), pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
Informal enquiries about the role should be directed to Angharad Kearse: [email protected]
This is a full time post (35 hours per week) available immediately and is a fixed term post for 3 years.
Salary: £28,031 - £31,236 per annum (Grade 4). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Please submit your application in Welsh.
Date advert posted: Thursday, 10 September 2026
Closing Date: Sunday, 27 September 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Hysbyseb Swydd
Gweinyddydd Cefnogi Darpariaeth Gymraeg
Coleg y Gwyddorau Biofeddygo a Gwyddorau Bywyd
Mae Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig a gweithgar i gefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn y Coleg. Bydd y rôl yn cefnogi a datblygu darpariaeth a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar draws yr Ysgolion a’r rhaglenni o fewn y Coleg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda’r Rheolwr Addysg Gymraeg a rhanddeiliaid allweddol o fewn y Coleg a’r Brifysgol i gefnogi, datblygu a chynnig cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i amrywiaeth o fyfyrwyr o gefndiroedd ieithyddol gwahanol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu darpariaeth ar gyfer siaradwyr rhugl, siaradwyr llai rhugl a siaradwyr newydd, sydd wedi ei alinio â strategaeth ehangach y Brifysgol a thargedau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n cael dilyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Bydd y rôl yn cefnogi’r darpariaeth, y cyfleoedd a’r gweithgareddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac yn darparu cymorth gweinyddol proffesiynol cynhwysfawr ac arweiniad i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd cyfrifoldeb am feysydd gwaith penodol, gan arwain a chyfarwyddo eraill wrth gyflawni’r rhain, a sicrhau bod myfyrwyr, staff a phartneriaid yn cael profiad o ansawdd uchel.
Mae’r rôl hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol, sy’n golygu y gallwch, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, ddewis gweithio peth amser o leoliad arall, megis eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn lle bynnag y mae natur y rôl a gofynion y busnes yn caniatáu hynny, gan gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Fel y brifysgol fwyaf yng Nghymru, ac yn gyflogwr mawr gyda dros 7,000 o aelodau staff, rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi’i lleoli mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig y cyfle i chi weithio’n ddwyieithog mewn sefydliad bywiog, gyda manteision rhagorol a chyfleoedd i ddatblygu a symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: Angharad Kearse, [email protected]
Mae’r rôl yn llawn amser, 35 awr yr wythnos dros 5 diwrnod, ac ar gael ar unwaith. Mae’r swydd yn un cyfnod penodol am gyfnod o 3 blynedd.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4). Fel arfer, gwneir penodiadau i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd ar waelod y raddfa oni bai mewn amgylchiadau eithriadol.
Cyflwynwch y cais drwy’r Gymraeg.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 10 Medi 2026
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 27 Medi 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.